Beth yw’r Hwb?
Mae’r Hwb yn ganolfan galw heibio ar ôl ysgol i bobl ifanc yn yr ysgol uwchradd!
Sut beth fydd yr Hwb?
Mae’r Hwb yn lle cyfeillgar, croesawgar a diogel, ble gewch chi ymlacio ar ôl ysgol. Gan ei fod yn gofod glaw heibio mi allwch ddod a gadael pryd bynnag yr hoffech chi. Mae yna lawer i’w wneud: gallwch chwarae gemau bwrdd, pêl-droed, pŵl, neu ping pong, bod yn greadigol gyda chrefftau, ac treulio amser gyda’ch ffrindiau. Gallwch hyd yn oed fwynhau rhywfaint o dost a siocled poeth tra byddwch chi yma. Mae’r Hwb yn rhywle i gael hwyl, ymlacio, a threulio amser mewn gofod lle rydych chi’n teimlo’n gartrefol.
Pwy all fynychu’r Hwb?
Unrhyw un yn yr ysgol uwchradd! Yn anffodus, ni allwn ddarparu ar gyfer ceisiadau i blant yn yr ysgol gynradd ymuno.
Pryd a ble mae Hwb?
Dechrau ar 15 o Ebrill.
Bydd yr Hwb ar agor ar ddyddiau Mercher yn ystod y tymor ysgol rhwng 3:00 yp a 5:00 yp yng Nghapel Berea Newydd Bangor(Rhodfa Dewi Sant, Ffordd Penrhos, Bangor, Gwynedd, LL57 2AX). Os ydych chi’n dod o Ysgol Tryfan, bydd hyn yn cymryd tua 6 munud wrth gerdded. I’r rhai sy’n dod o Ysgol Friars, bydd hyn yn cymryd 11 munud i gerdded.
Oes angen imi gofrestru i fynychu?
Oes, rhaid i rhiant neu warchodwr cyfreithiol lenwi ein ffurflen gofrestru cyn mynychu Hwb. Cliciwch yma i gwblhau’r ffurflen! Rhaid cwblhau ffurflenni cofrestru unwaith bob blwyddyn academaidd a dim ond ar gyfer y flwyddyn academaidd hono y byddant yn cael eu cadw ar ffeil. Os hoffech inni dynnu eich ffurflen gofrestru a’i holl ddata personol unrhywbryd, anfonwch e-bost atom: hello@bangor.yfc.co.uk
Oes gost i fynychu?
Na! Mae’r Hwb yn rhad ac am ddim.
A fydd bwyd a diodydd ar gael?
Byddwn yn gweini siocled poeth a thost. Yn anffodus, ni allwn ddarparu ar gyfer pob cyfyngiad deietegol. Os oes gennych unrhyw alergeddau mawr neu gyfyngiadau deietegol, byddwch yn gallu rhoi gwybod i ni yn y ffurflen gofrestru.
Beth os nad ydw i’n adnabod unrhyw un sy’n dod?
Dim problem, mae pawb yn newydd ar ryw adeg neu gilydd! Mae ein tîm o wirfoddolwyr yma i’ch helpu i ymgartrefu, ac mae’n lle gwych i wneud ffrindiau newydd.
Ga i ddod â ffrind?Yn bendant!
Gwnewch yn siŵr bod eu rhiant neu gwarchodwr cyfreithiol wedi cwblhau’r ffurflen gofrestru cyn iddyn nhw gyrraedd.
Sut alla i gymryd rhan neu wirfoddoli?
Rydym bob amser yn chwilio am bobl sy’n fodlon gwneud gwahaniaeth yn fywydau pobl ifanc! Os hoffech chi wirfoddoli, dilynwch y ddolen hon <https://bangor.yfc.co.uk/
Pwy sy’n rhedeg Hwb?
Mae Hwb yn brosiect cydweithredol rhwng Ieuenctid Dros Grist Bangor a Chapel Berea Newydd Bangor.
Sut alla i gysylltu?
Os oes angen i chi gysylltu â ni’n uniongyrchol, anfonwch e-bost atom yn hello@bangor.yfc.co.uk